Blog

Changing cultures and exploring what a good life looks like

10 May 2022 · Categories: Communities Care, Events, Innovators Learn, Wales / Cymru

2 weeks – 2 countries – 1 speed networking event and 2 “Helping people to get a good life” workshops!

As people start to come back together I had a wonderful two weeks getting out and about and doing what we do best – bringing people on the journey of understanding more about the great support that community enterprises offer. There is nothing like face-to-face contact to build relationships and find out more about the variety and range of support options on offer in a local area.

Speed networking with community enterprises in England

A photo of a mixed group of 19 local community micro-enterprise leaders and other social work professionals sat in rows facing the camera and smiling. So, my first pit stop was in Central Bedfordshire – over the years we have run several speed networking events in the area. It was great to do this again for the first time since Covid! Alongside Ian Hanton, Commissioning Manager at the Council and my colleague Elaine Davin-Jones; we took one big community room and filled it with twenty-five fantastic leaders from local community enterprises and a good mix of social workers Direct Payment teams/link workers and others who advise people about the different care or support options available to them.

Great event – great opportunity to meet lots of providers and learn about services I have never heard of

Social worker

A photo of the workshop in progress with local community micro-enterprise leaders and other social work professionals . People are sat around several circular tables in groups. They are chatting with each other and writing notes.We split the group up across 7 tables, community enterprise leaders introduced themselves on each table, then moved to the next table after 10 mins while other staff stayed seated. There was plenty of moving, talking and sharing of leaflets and contact details – all on the call of my whistle 😊

When people connected [through the Community Catalysts speed networking sessions] they could have that relationship moment, that sense of community [and] understand each other…and they started to find solutions – that was the opening door moment that allowed us to shift some of that culture away from ‘it’s a bit risky to do that’ to actually saying ‘there are some really cool solutions here’

Ian Hanton – Development and Commissioning Manager @ Central Bedfordshire Council

Building connections with community enterprises in Wales

In my second week, I travelled to Denbighshire to run 2 x 3 hour workshops – in two different venues in one day! This time I was joined by David Soley, Lead Commissioner at the Council and my colleague Fabrizio Donati.

As our project in Denbighshire is still in its infancy this was our first face-to-face event with staff teams due to Covid so it was great to see people from different teams such as commissioners, Direct Payment teams/Single Point of Access Teams/social workers and staff from the local carers’ organisation.

David opened the workshop by giving practitioners the backing from the Council to really embrace the new types of support on offer from community enterprises. In this style of workshop, staff are asked to take off their work glasses, forget eligibility criteria/assessments and talk to a colleague about what a good life looks like for them and an older relative that they know. We didn’t want service language like “inclusion” or “person-centred care”- we wanted to hear things like “going to the pub” and “catching up with friends”. Good food and loving our pets (dogs in the main) came out on top in both workshops…

…Of interest, “personal care” didn’t factor in anyone’s good life!!!…

…The resounding message was that personalisation is tricky – what is meaningful to one person is different to the next, so having a choice of quality options from many community enterprises who bring their own passions and skills really helps people to find the right support that works for them.

Meeting community enterprises – made it realistic. [It was really useful to see] the variety of support offered and its flexibility.

Staff at event

Later in the workshop, two amazing community enterprise leaders from SAFE and Lean On Me talked about what they offer in the local area. As a group, we then used lots of Post-it notes to identify all the good outcomes that they, and other, community enterprises could provide. We also looked at what barriers there might be for people in using a community enterprise. The exercise proved a great opportunity to share information, highlight where we can work together and to continue busting those myths and perceived risks to move towards changing cultures…something Denbighshire are leading the way with.

The power of connections

During the exercises, a social worker mentioned that someone they were supporting who has dementia was struggling to get extra help in their home due to having large dogs – traditional homecare agencies were unwilling to offer support.

We’re looking at really unique support for this person…someone who can build a relationship

Nic

Hazel from SAFE stepped in to say that as she has 4 huge dogs of her own she would welcome the opportunity to be introduced to the person (and dogs!). We’re looking forward to hearing how they get on once they’ve been introduced!

I have 4 dogs of my own…and I’m all about that personable, bespoke care

Hazel

It’s been a while since I ran speed networking and in-person workshops and it was a real breath of fresh air to get back together, meet amazing people and help build those local connections to create the conditions for community enterprises to thrive – offering more choice and control for local people.

By Helen Allen – Director of Community Enterprise


You might be interested in our other recent blogs:


Diwylliannau sy’n newid ac archwilio sut beth yw bywyd da

Pythefnos – 2 wlad – 1 digwyddiad rhwydweithio chwim a 2 weithdy “Helpu pobl i gael bywyd da”!

Wrth i bobl ddechrau dod yn ôl ynghyd fe ges i bythefnos wych yn crwydro gan wneud yr hyn rydym yn ei wneud orau – dod â phobl ar y daith ddysgu am y gefnogaeth wych y mae mentrau cymunedol yn eu cynnig. Nid oes dim fel cyswllt wyneb yn wyneb i feithrin perthnasoedd a darganfod mwy am yr amrywiaeth a’r ystod o ddewisiadau cymorth sydd ar gael mewn ardal leol.

Rhwydweithio chwim gyda mentrau cymunedol yn Lloegr

Felly roedd fy arhosfan cyntaf yng Nghanol Swydd Bedford – dros y blynyddoedd rydym wedi cynnal sawl digwyddiad rhwydweithio chwim yn yr ardal. Roedd yn wych i wneud hyn eto am y tro cyntaf ers Covid! Gyda Ian Hanton, Rheolwr Comisiynu yn y Cyngor a fy nghydweithiwr Elaine Davin-Jones; fe aethom i un ystafell gymunedol fawr a’i llenwi gyda phump ar hugain o arweinwyr gwych o fentrau cymunedol lleol a chymysgedd da o weithwyr cymdeithasol, comisiynwyr, arweinwyr taliadau uniongyrchol, gweithwyr cyswllt ac eraill sy’n cynghori pobl ynglŷn â’r dewisiadau gofal neu gymorth gwahanol sydd ar gael iddynt.

Digwyddiad gwych – cyfle gwych i gyfarfod llawer o ddarparwyr a dysgu am y gwasanaethau nad ydw i erioed wedi clywed amdanynt

Gweithiwr Cymdeithasol

A photo of the workshop in progress with local community micro-enterprise leaders and other social work professionals . People are sat around several circular tables in groups. They are chatting with each other and writing notes.Fe aethom ati i rannu’r grŵp i 7 bwrdd, cyflwynodd arweinwyr mentrau cymunedol eu hunain ar bob bwrdd ac yna symud i’r bwrdd nesaf ar ôl 10 munud tra arhosodd aelodau eraill o staff yn eu seddi. Roedd yna lawer o symud, siarad a rhannu taflenni a manylion cyswllt – i gyd ar alwad fy chwiban. 😊

Pan fo pobl yn cysylltu [drwy sesiynau rhwydweithio chwim y Catalyddion Cymunedol] fe allant gael y foment honno sy’n ymwneud â pherthynas, y synnwyr hwnnw o gymuned [gan] ddeall ei gilydd…ac maent yn dechrau dod o hyd i ddatrysiadau  – honno oedd y foment lle’r agorwyd y drws a oedd yn ein galluogi ni i symud ychydig o’r diwylliant hwnnw â’r agwedd ‘mae’n ychydig o risg i wneud hynny’ i ddweud ‘mae yna rai datrysiadau da iawn yma’

Ian Hanton – Rheolwr Datblygu a Chomisiynu yng Nghyngor Canol Swydd Bedford.

Meithrin cysylltiadau gyda mentrau cymunedol yng Nghymru

Yn fy ail wythnos fe deithiais i Sir Ddinbych i gynnal dau weithdy tair awr – mewn dau leoliad gwahanol mewn un diwrnod! Y tro hwn ymunodd David Soley, Comisiynydd Arweiniol yn y Cyngor a fy nghydweithiwr Fabrizio Donati gyda mi.

Gan fod ein prosiect yn Sir Ddinbych yn parhau yn ei ddyddiau cynnar hwn oedd ein digwyddiad cyntaf wyneb yn wyneb gyda thimau staff o ganlyniad i Covid ac felly roedd yn wych i weld pobl o wahanol dimau fel comisiynwyr, timau Taliadau Uniongyrchol/timau Un Pwynt Mynediad/gweithwyr cymdeithasol a staff o sefydliad y gofalwyr yn lleol.

Agorodd David y gweithdy drwy roi i ymarferwyr y gefnogaeth gan y cyngor i gofleidio’r mathau newydd o gefnogaeth a gaiff eu cynnig gan fentrau cymunedol. Mewn gweithdy o’r math hwn gofynnir i staff dynnu eu sbectol waith, anghofio’r meini prawf/asesiadau cymhwysedd a siarad gyda chydweithiwr ynglŷn â sut y mae bywyd da yn ymddangos iddynt hwy a pherthynas hŷn y maent yn ei adnabod. Doedden ni ddim eisiau iaith gwasanaeth fel ‘cynhwysiant’ neu “ofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn” – roeddem eisiau clywed pethau fel “mynd i’r dafarn” a sgwrsio gyda ffrindiau”.  Daeth bwyd da a charu ein hanifeiliaid anwes (cŵn yn bennaf) ar y brig yn y ddau weithdy…

…o ran diddordeb, nid oedd “gofal personol” yn ffactor uchel ym mywyd da neb!!!…

… Y neges a gâi ei hatsain oedd fod personoli yn anodd – mae’r hyn sy’n ystyrlon i un unigolyn yn wahanol i’r nesaf, ac felly mae cael dewis o ddewisiadau o ansawdd o sawl menter gymunedol sy’n dod â’u hangerdd a’u sgiliau eu hunain wir yn helpu pobl i ddod o hyd i’r gefnogaeth gywir sy’n gweithio iddynt hwy.

Roedd cyfarfod mentrau cymunedol – yn ei wneud yn realistig. [Roedd wir yn ddefnyddiol i weld] yr amrywiaeth o gefnogaeth a gâi ei gynnig a’i hyblygrwydd.

Staff yn y digwyddiad

Yn ddiweddarach yn y gweithdy, fe siaradodd dau arweinydd menter gymunedol anhygoel o SAFE a Lean On Me  am yr hyn maent yn ei gynnig yn yr ardal leol. Fel grŵp fe ddefnyddiom lawer o nodiadau glynu wedyn i nodi’r holl ganlyniadau da y gallent hwy a mentrau cymunedol eraill eu darparu. Hefyd aethom ati i edrych pa rwystrau allai fodoli i bobl o ran defnyddio menter gymunedol. Profodd yr ymarfer yn gyfle gwych i rannu gwybodaeth, amlygu lle gallwn gydweithio ac i barhau i chwalu’r mythau hynny a’r risgiau ymddangosiadol i symud tuag at ddiwylliannau sy’n newid…ac mae Sir Ddinbych yn arwain y ffordd gyda hyn.

Grym cysylltiadau

Yn ystod yr ymarferion, fe ddywedodd gweithiwr fod rhywun yr oeddent yn ei gefnogi sydd â dementia yn ei chael yn anodd i gael cymorth ychwanegol yn eu cartref gan fod ganddo gŵn mawr – roedd asiantaethau gofal cartref yn amharod i gynnig cefnogaeth.

Rydym yn edrych ar gefnogaeth sydd wir yn unigryw ar gyfer yr unigolyn hwn…rhywun a all feithrin perthynas

Nic

Fe gamodd Hazel o SAFE i mewn i ddweud gan fod ganddi 4 ci mawr ei hun y byddai’n croesawu’r cyfle i gael ei chyflwyno i’r unigolyn hwn (a’r cŵn!). Rydym yn edrych ymlaen i glywed sut maent yn dod ymlaen unwaith y byddant wedi cael eu cyflwyno i’w gilydd!

Mae gen i 4 ci fy hun…a dwi’n ymwneud â’r gofal personol, pwrpasol hwnnw.

Hazel

Mae wedi bod yn gryn amser ers i mi gynnal gweithdai rhwydweithio chwim a gweithdai wyneb yn wyneb ac roedd wir yn chwa o awyr iach i ddod yn ôl at ein gilydd, cyfarfod pobl anhygoel a helpu i feithrin y cysylltiadau lleol hynny i greu’r amodau er mwyn i fentrau cymunedol ffynnu – gan gynnig mwy o ddewis a rheolaeth ar gyfer pobl leol.

Gan Helen Allen – Cyfarwyddwr Menter Gymunedol


Efallai y byddai gennych ddiddordeb yn ein blogiau diweddar eraill:

Back to news