Ym mis Mai 2025, bydd dwy garfan Arweinwyr Cymdeithasol Newydd yn cychwyn, sy’n cynnig y cyfle i chi a/neu’ch tîm ddatblygu sgiliau a gallu arwain, ac adeiladu rhwydwaith cefnogol o gydweithwyr. Efallai eich bod yn dechrau mewn rôl arwain neu wedi bod yn arweinydd ers tro ac yn chwilio am syniadau newydd.
Mae pob carfan yn cynnwys grwpiau bach sy'n dod at ei gilydd ar-lein i adeiladu cysylltiadau. Mae'r grwpiau hyn yn rhannu dysgu ac yn tyfu o ganlyniad i gyfres o weithdai wedi'u hwyluso. Mae cyfranogwyr yn dysgu ochr yn ochr ag arweinwyr eraill o'r un anian, sy'n meddwl yn ffres ac sy'n cael eu gyrru gan werthoedd sy'n credu ym mhotensial pobl ac sy'n anelu at wneud gwahaniaeth cadarnhaol.