Rydym wedi ymrwymo i gyflawni safonau uchel yn ein holl waith, a chynnal perthnasoedd parchus a phroffesiynol gyda'n gweithwyr, cwsmeriaid a'r cyhoedd yn gyffredinol. Mae'r polisi hwn yn amlinellu sut mae cwynion yn cael eu trin i sicrhau tegwch, tryloywder a gwelliant parhaus.
Bydd pob cwyn yn cael ei thrin yn gyfrinachol. Dim ond gyda'r rhai sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r ymchwiliad neu lle bo'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol y bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu.
Mae cwyn yn fynegiant o bryder neu anfodlonrwydd ynghylch ein gwasanaethau, arferion busnes, neu ymddygiad ein gweithwyr.
Dylid anfon cwynion drwy e-bost at: cwynion@communitycatalysts.co.uk. Yna bydd y Cyfarwyddwr Gweithrediadau Busnes yn ymchwilio i'r gŵyn.
Os nad ydych yn fodlon â chanlyniad eich cwyn, gallwch ofyn iddi gael ei hadolygu. Dylech wneud hyn drwy e-bostio cwynion@communitycatalysts.co.uk, a gofyn yn benodol am i'ch cwyn gael ei huwchgyfeirio.
Bydd y Prif Swyddog Gweithredol yn edrych o’r newydd ac yn ymateb i chi o fewn 10 diwrnod gwaith.